O tua chwe mis dechreuwch roi bwyd wedi’i stwnsio â fforc hyd nes ei fod yn feddal i’ch babi. Rhowch gynnig ar lysiau wedi’u coginio’n feddal fel pannas, tatws, iam, tatws melys neu foron. Rhowch ffrwythau wedi’u stwnsio’n feddal fel banana, afocado, eirin gwlanog neu felon iddynt.
Pan fydd eich babi yn gyfarwydd â’r rhain, rhowch gynnig ar roi cig meddal wedi’i goginio iddo fel cyw iâr, neu bysgod wedi’u stwnsio. Gwiriwch yn ofalus am unrhyw esgyrn. Rhowch gynnig ar basta, nwdls, tost, darnau o chapatti, corbys, reis ac wyau wedi’u berwi’n galed a’u stwnsio. Gallant hefyd gael cynnyrch llaeth braster llawn fel iogwrt plaen, fromage frais neu gwstard. Gellir defnyddio llaeth cyfan buwch wrth goginio neu ei gymysgu â bwyd o chwe mis oed.
Mae babanod yn aml yn hoffi dechrau bwyta’r rhain fel bwydydd bys a bawd, neu wedi’u stwnsio. Bwyd bys a bawd yw bwyd wedi’i dorri’n ddarnau sy’n ddigon mawr i’ch babi eu dal yn ei ddwrn gyda darn yn dod allan o frig ei ddwrn. Mae darnau tua maint eich bys eich hun yn gweithio’n dda. Gallwch hefyd fwydo eich babi â llwy, er y bydd yn gallu gwneud hyn dros ei hun cyn bo hir.