Pa un o’r datganiadau hyn sy’n disgrifio orau sut rydych yn teimlo?
Dw i’n mynd i fwydo ar y fron yn bendant. Dyma’r ffordd fwyaf naturiol o fwydo babi.
Mae hynny’n newyddion gwych. Bydd llaeth y fron yn rhoi i’ch babi yr holl faethynnau y mae eu hangen arno. Gall eich llaeth ei ddiogelu rhag clefydau fel heintiau yn y glust, heintiau ar y frest ac anhwylder ar y stumog.
Gall y diogelwch hwn bara am flynyddoedd lawer a’r hwyaf rydych yn bwydo ar y fron y mwyaf fydd y manteision iechyd. Bydd yn ei helpu i dyfu’n gyson hefyd. Wrth i’ch babi dyfu a newid, mae’ch llaeth yn newid – rhywbeth na all yr un fformiwla ei wneud.
Gwnewch bwydo ar y fron yn rhan o’ch cynllun geni
Os ydych yn feichiog, efallai y byddwch wedi’ch cynghori i lunio cynllun geni. Gwnewch bwydo ar y fron yn rhan ohono. Siaradwch â’ch bydwraig am drefnu cael cyffyrddiad croen i groen cyn gynted â phosibl ar ôl i’ch babi gael ei eni. Ceisiwch fwydo o fewn awr gyntaf bywyd eich babi.
Bwytwch yn dda a gofalwch amdanoch eich hun
Does dim angen i chi fwyta pethau arbennig er mwyn bwydo ar y fron. Ond mae angen i chi fwyta deiet iach a chytbwys ac osgoi smygu ac alcohol. Bydd angen i chi yfed digon o ddŵr hefyd. Beth bynnag rydych chi’n ei fwyta neu’n ei yfed, bydd eich babi yn cael yr un peth. Dysgwch ragor
Mae bwydo ar y fron yn dda i chi hefyd
Byddwch yn defnyddio hyd at 500 o galorïau y dydd drwy fwydo ar y fron. Mae hynny yr un peth ag awr ar y felin draed, a gallai eich helpu i golli’r pwysau a fagwyd yn ystod beichiogrwydd. Bydd bwydo ar y fron yn eich helpu i feithrin perthynas â’ch babi hefyd. Hefyd, byddwch mewn llai o berygl o ganser yr ofari, canser y fron ac osteoporosis.
Siaradwch â’ch bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd
Mae rhai mamau’n gallu bwydo ar y fron yn hawdd ar unwaith. I eraill mae’n cymryd ychydig mwy o amser ac ymarfer. Mae hyn yn arferol. Os oes angen cefnogaeth arnoch wrth fwydo ar y fron, gofynnwch i’ch bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd. Hefyd, cewch lawer o wybodaeth ddefnyddiol am hyn yn y llyfr Pob Plentyn Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth
Grwpiau Cefnogi Bwydo ar y Fron
Ceir grwpiau cefnogi bwydo ar y fron ar draws Cymru. Maent yn ffynhonnell wybodaeth ac anogaeth ardderchog i famau sy’n bwydo ar y fron neu fenywod beichiog. Gofynnwch i’ch bydwraig neu’ch ymwelydd iechyd am grwpiau yn eich ardal chi.
Pob Plentyn Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth
Dysgwch ragor