Sicrhewch fod eich plentyn yn cael digon o gwsg
Bydd cael digon o gwsg yn rheolaidd yn helpu eich plentyn i aros yn bwysau iach
Mae cwsg yr un mor bwysig â bwyta’n iach ac ymarfer corff. Mae’n dda i ddatblygiad corfforol a meddyliol eich plentyn. Pan fydd eich plentyn wedi cael noson dda o gwsg, bydd ganddo fwy o egni ac yn llai tebygol o fod eisiau bwyd llawn siwgr yn ystod y dydd. Byddwch yn cael budd hefyd, oherwydd bydd gennych fwy o amser i chi eich hun ac i ymlacio.
Faint o gwsg sydd ei angen ar fy mhlentyn?
Mae pob plentyn yn wahanol felly does dim swm penodol o gwsg. Mae faint sydd ei angen arnynt, a phan fydd ei angen arnynt, yn newid wrth iddynt fynd yn hŷn hefyd. Dyma ganllaw defnyddiol: