Osgowch fagu gormod o bwysau pan fyddwch yn feichiog
Pan fyddwch yn feichiog, ceisiwch fagu pwysau iach – nid gormod ac nid rhy ychydig. Os ydych yn magu gormod, gall fod yn fwy anodd colli pwysau wedyn. Gall hefyd eich rhoi mewn perygl o bwysedd gwaed uchel neu olygu bod angen help arnoch gan feddyg pan gaiff eich babi ei eni.
Pwysau yn ystod beichiogrwydd
Gwir neu anwir?
- 1. Mae angen i mi fwyta i ddau
- 2. Mae’n ddiogel i fenywod beichiog ymarfer corff
- 3. Mae bwyta un pryd y dydd yn ffordd dda o reoli fy mhwysau
- 4. Nid yw rhai mathau o ymarfer corff yn ddiogel i fenywod beichiog
- 5. Gall bwydo ar y fron helpu menywod i ddychwelyd i’w pwysau cyn beichiogrwydd
- 6. Mae angen imi gael llaeth braster llawn ‘caead glas’ i helpu esgyrn fy mabi i ddatblygu
- 7. Byddaf yn magu gormod o bwysau os byddaf yn bwyta tatws, bara, pasta a reis
- 8. Mae angen i fenywod beichiog gymryd rhai fitaminau
- 9. Mae angen i mi fwyta siocled, losin a diodydd llawn siwgr i gael egni
- 10. Bydd bwyta bwydydd braster isel yn fy helpu i reoli fy mhwysau
- 11. Dylech fwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd