Cadwch amser sgrîn o dan ddwy awr y dydd
Mae amser sgrîn yn cynnwys amser a dreulir yn
gwylio’r teledu, defnyddio llechen, ffôn clyfar, cyfrifiadur neu ddyfais gemau. Ceisiwch gyfyngu amser sgrîn eich plentyn lle gallwch. Yn ddelfrydol, ni ddylant gael amser sgrîn o gwbl nes eu bod o leiaf ddwy flwydd oed. Ar ôl yr oed hwn, ni ddylant dreulio mwy na dwy awr y dydd o flaen sgrîn.
Os yw o flaen sgrîn, mae’n eistedd neu’n gorwedd pan allai fod yn chwarae, yn archwilio neu’n gwneud rhywbeth egnïol. Os yw’n treulio llai o amser o flaen sgrîn, mae’n fwy tebygol o fod yn egnïol ac yn bwysau iach. A bydd yn cysgu’n well hefyd.