Rhowch ffrwythau a llysiau i'ch plant bob dydd
Mae ffrwythau a llysiau yn llawn fitaminau, mwynau a ffeibr sy'n helpu i gadw eich plentyn yn iach.
Pan fydd eich plentyn yn 12 mis oed, ceisiwch roi pum dogn o wahanol ffrwythau a llysiau iddynt bob dydd. Dylai un dogn ffitio yng nghledr eu llaw. Gallai fod yn sleisen o afal i blentyn bach, ond afal bach i blentyn pedair oed.
GWNEWCH FYRBRYDAU O FFRWYTHAU a llysiau?
- Dylech drin ffrwythau a llysiau fel unrhyw fwyd arall
- Mwynhewch eich ffrwythau a llysiau eich hun
- Osgowch defnyddio bwyd fel gwobr
- Cofiwch gynnwys eich plentyn wrth ddewis bwyd a gwneud prydau
- Cofiwch gynnwys ffrwythau a llysiau gyda'r rhan fwyaf o brydau
- Gwenewch Fyrbrydau o ffrwythau a llysiau
- Rhowch lysiau a ffrwythau tun, sych ac wedi'u rhewi i blant hefyd
- Daliwch ati – hyd yn oed os ydynt yn ffyslyd ar y dechrau