Mae dŵr yn eu cadw wedi’u hydradu ac yn eu hatal rhag bod yn sychedig. Mae am ddim hefyd.
Mae llaeth yn llawn fitaminau, mwynau a chalsiwm, sy’n eu helpu i feithrin esgyrn a dannedd cryf.
Mae’r diodydd hyn yn cynnwys diodydd ffrwythau llonydd, sgwosh a phop swigod.
Maent yn cynnwys llawer o siwgr a chalorïau, a all achosi magu pwysau a phydredd dannedd.
Mae’r rhain yn cynnwys diodydd fel sudd oren ac afal ffres, a smwddis.
Pan fydd ffrwythau yn cael eu troi’n sudd neu eu cymysgu, mae’r siwgr yn y ffrwythau yn cael ei ryddhau.
Gall hyn niweidio dannedd eich plentyn.
Os byddwch yn rhoi sudd ffrwythau iddynt weithiau, gwnewch hynny yn ystod amser bwyd a’i wanhau – un rhan o sudd i 10 rhan o ddŵr a dim mwy na 150mls dros y diwrnod cyfan.
Mae’r rhain yn cynnwys diodydd fel sgwosh a diodydd swigod calori isel.
Maent yn cynnwys melysyddion eraill. Maent yn asidig, felly gallant niweidio dannedd eich plentyn hefyd.
Mae’r rhain yn cynnwys cola, diodydd egni, te a choffi.
Gallant godi cyfradd calon eich plentyn a phwysedd gwaed i lefelau anniogel.
Gallant roi poen yn y bol a phen tost iddynt, a’i gwneud yn anodd iddynt ganolbwyntio neu gysgu.
Mae’r rhain yn cynnwys llaeth tun neu bowdrog, ac ysgytlaethau.
Maent yn cynnwys llawer o siwgr a chalorïau, a all achosi magu pwysau a phydredd dannedd.
Nid yw’r rhain yn addas i blant o dan bump oed, am nad ydynt yn cynnwys digon o galorïau neu faethynnau.
Gall plant rhwng dwy a phump oed yfed llaeth hanner sgim os ydynt yn bwyta’n dda.
Ni ddylai plant o dan bump oed gael diodydd reis. Gallant gynnwys lefelau anniogel o arsenig.