Ewch i chwarae yn yr awyr agored bob dydd
Mae plant sy'n chwarae yn yr awyr agored bob dydd yn fwy tebygol o gynnal pwysau iach
Rhowch gyfle i’ch plentyn chwarae yn yr awyr agored bob dydd
Mae chwarae egnïol, yn enwedig yn yr awyr agored, yn helpu eich plentyn i ddatblygu’n gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol.
Mae’n eu helpu i ddatblygu esgyrn a chyhyrau cryf, yn gwella eu sgiliau a’u cydsymud, ac yn gwneud iddynt deimlo’n well amdanynt eu hunain. Gall hyd yn oed eu helpu i gysgu’n well.
Beth gallaf ei wneud i helpu fy mhlentyn i chwarae yn yr awyr agored?
SYNIADAU AR GYFER CHWARAE EGNïOL
Edrychwch ar ein syniadau ar gyfer chwarae yn awyr agored yn eich ardaloedd lleol
Mae gennym lawer o syniadau i’ch cael chi a’ch teulu i symud. Dysgwch ragor ar safle
Chwarae allan - gwnewch eich stryd yn lle i chwarae