Darganfyddwch fwy am bwysigrwydd bod yn bwysau iach cyn, ac yn ystod beichiogrwydd
Ceisiwch gynnal pwysau iach pan fyddwch yn dechrau teulu
Pan fyddwch yn bwysau iach, mae’n haws beichiogi, ac yn well i’ch babi
Mae’n eich helpu i osgoi cymhlethdodau fel pwysedd gwaed uchel ac rydych yn fwy tebygol o gael genedigaeth arferol. Ac mae eich babi yn fwy tebygol o gael ei eni’n bwysau iach.
Sut gallaf wybod a ydw i’n bwysau iach?
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell pwysau GIG Cymru i ddarganfod a ydych yn cynnal y pwysau cywir ar gyfer eich taldra. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw nodi’ch taldra a’ch pwysau.