Cynnwys plant yn ystod amser bwyd
Gall annog diddordeb mewn bwyd a chysylltu plant â bwyd o oedran cynnar eu gwneud nhw’n fwy parod i flasu a derbyn bwydydd newydd, a bwyta deiet fwy amrywiol a chytbwys wrth iddyn nhw dyfu i fyny.
Dyma rai syniadau ar sut i gynnwys plant yn ystod amser bwyd, y gallwch eu haddasu yn unol ag oedran eich plentyn.
Gall plant gyfrannu o’r dechrau’n deg drwy helpu i ddewis pa brydau fyddwch chi’n eu coginio, helpu i lunio rhestri siopa, eich helpu i wneud y siopa ac, os yn bosib, dyfu rhywfaint o’u bwyd eu hunain hefyd.
Gall plant helpu i gynllunio prydau bwyd drwy:
- Helpu i ddewis pa brydau fyddwch chi’n eu coginio.
- Llunio rhestri siopa gyda chi.
- Dysgu pa fwydydd sy’n dymhorol.
- Tyfu perlysiau, ffrwythau neu lysiau gyda chi — mewn potiau bach yn y gegin, ar falconi neu yn eich gardd os oes lle.
Gall plant helpu gyda’r siopa drwy:
- Helpu i ffeindio’r bwyd sydd ar eich rhestr siopa yn yr archfarchnad.
- Helpu gyda’r pacio a rhoi’r siopa i gadw.
Gall plant fod yn fwy tebygol o flasu bwydydd /prydau newydd os ydyn nhw wedi helpu i’w dewis a’u paratoi. Gall plant ifanc hyd yn oed helpu i baratoi a choginio bwyd gartref. Gall plant helpu drwy:
- Ffeindio’r cynhwysion sydd eu hangen arnoch o gwmpas y gegin.
- Golchi cynhwysion, fel ffrwythau a llysiau.
- Dewis offer.
- Darllen ryseitiau.
- Pwyso cynhwysion.
- Sleisio cynhwysion (i blant hŷn, dan lygad oedolyn).
- Stwnsio cynhwysion gyda fforc neu stwnsiwr tatws e.e. bananas/tatws.
- Troi neu gymysgu cynhwysion (ar dymheredd ystafell i blant iau).
- Taenu cynhwysion, fel sbred olew llysiau neu gaws meddal.
- Cadw golwg ar yr amseru (gan ddefnyddio amserydd os oes gennych un).
- Helpu i blatio’r prydau.
Gall amser bwyd fod yn achlysur cymdeithasol arbennig. Ceisiwch eistedd wrth fwrdd gyda’ch gilydd lle y bo’n bosibl, bwyta’r un bwyd gyda’ch gilydd a mwynhau amser i’r teulu, pan allwch ganolbwyntio ar eich gilydd y tu allan i’ch diwrnodau prysur.
Mae dod i’r arfer â phrydau teuluol o oedran cynnar yn wych ar gyfer datblygiad cymdeithasol babanod a phlant bach. Maen nhw hefyd yn gyfle gwych i ddechrau gosod trefn ac i ddangos esiampl i’ch plant o ran bwyta’n iach. Ceisiwch sicrhau bod amser bwyd yn gyfle i ymlacio ac yn brofiad cadarnhaol. Mae hwn yn amser gwych i blant ddatblygu mwynhad a diddordeb yn y bwyd maen nhw’n ei fwyta, gan sefydlu arferion bwyta da ar gyfer y dyfodol.
Dyma rai pethau y gall plant eu gwneud i helpu gydag amser bwyd:
- Gosod y bwrdd
- Gweini rhywfaint o’r bwyd eu hunain (gwych ar gyfer annog plant iau lle mae hyn yn bosib).
- Clirio’r bwrdd a thacluso ar ôl gorffen.
Mae amser bwyd hefyd yn gyfle gwych i blant ddysgu a datblygu sgiliau newydd. Dyma rai pethau y gall plant eu dysgu wrth gynnig help llaw:
- Hylendid – golchi dwylo gyda sebon a dŵr cyn paratoi bwyd, bwyta a mynd i’r tŷ bach.
- Dysgu am fwyd a bwyta’n iach.
- Cwrteisi wrth y bwrdd.
- Rhyngweithio cymdeithasol.
- Annibyniaeth — dewis prydau, bwydo eu hunain, gweini eu bwyd eu hunain
- Cyfrifoldeb — gosod y bwrdd / clirio ar ôl gorffen.
- Datblygiad corfforol — sleisio, cymysgu, defnyddio cyllyll a ffyrc, bwydo eu hunain.
- Sgiliau cyfathrebu.
- Sgiliau coginio.